Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
 


111(v4)  

------

<AI1>

Cwestiwn Brys

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i ymateb i effeithiau diddymu Carillion? (EAQ0002)

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

(45 munud)

Dogfen Ategol
Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru - Adroddiad Terfynol

</AI4>

<AI5>

4       Dadl: Cyllideb Derfynol 2018-19

(60 munud)

NDM6614 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 19 Rhagfyr 2017.

Troednodyn:

Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

2. yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

3. cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;

4. cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a

5. cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
 
Darparwyd y wybodaeth atodol ganlynol i'r Aelodau:

- Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Flynyddol.

Dogfen Ategol
Y Pwyllgor Cyllid - Adroddiad ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19

</AI5>

<AI6>

5       Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018

(15 munud)

NDM6622 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 04/01/2018.

Dogfen Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI6>

<AI7>

6       Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2018-19

(60 munud)

NDM6623 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2018-2019 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2017.

</AI7>

<AI8>

7       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 17 Ionawr 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>